Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanfaelog |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2278°N 4.5189°W |
Cod OS | SH319730 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Pentref yng nghymuned Llanfaelog, Ynys Môn, yw Rhosneigr[1][2] ( ynganiad ). Saif ar arfordir gorllewinol yr ynys, ar briffordd yr A4080. O'r cloc yng nghanol y pentref gellir gweld RAF Y Fali a Mynydd Twr. Mae prif drefi Caergybi a Llangefni a dinas Bangor i gyd o fewn pellter teithio hawdd. Dyma’r lle drutaf i fyw ym Môn o ran prisiau tai.
Mae traeth bychan gerllaw'r pentref ei hun, a dau draeth mwy, Traeth Cymyran a Thraeth Llydan, gerllaw. Ceir gorsaf reilffordd yno, yn ogystal â nifer o westai a thai bwyta. Twristiaeth yw'r prif ddiwydiant, er fod rhai o'r trigolion yn gweithio ym maes awyr Y Fali gerllaw, i sawl corff arall ac yn hunan-gyflogedig. Mae Llyn Maelog gerllaw a Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn rhedeg heibio'r pentref. Mae Llyn Maelog tua 65 erw i gyd.
Mae Ysgol Gynradd yn Rhosneigr. Mae gweithgareddau hamdden yn cynnwys: nofio, syrffio, hwylfyrddio, sgio dwr, golff, tenis a deifio dan y dwr. Mae'n pentref yn gartref i Glwb Golff Ynys Môn.